Cyfarwyddwr Busnes y Senedd
Cardiff
Permanent
Strategy
Central Government
£117,918.00 - £150,484.00Year
Cyfarwyddwr Busnes y Senedd
Cyflog: £117,918 - £150,484 (SC2)
Lleoliad: Senedd, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd/Hybrid
Ydych chi'n barod i ymgymryd â rôl arweiniol ganolog yng nghalon democratiaeth Cymru? Mae Senedd Cymru wrth galon democratiaeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru a'i nod yw bod yn gorff seneddol effeithiol sy'n ennyn hyder pobl Cymru. Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Busnes y Senedd i arwain a gwella ein swyddogaethau busnes seneddol yn ystod cyfnod o newid a thrawsnewid sylweddol. Gyda'r Senedd yn ehangu o 60 i 96 Aelod yn dilyn etholiadau 2026, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i ddarparu arweinyddiaeth drawsnewidiol a sicrhau bod anghenion y Senedd yn cael eu diwallu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Bydd y newid sylweddol hwn yn newid sut mae'r Senedd yn gweithredu ei fusnes ffurfiol, a bydd yn effeithio ar y gofynion sy'n wynebu Cyfarwyddiaeth Busnes y Senedd yn y blynyddoedd i ddod. Gan arwain Cyfarwyddiaeth Busnes y Senedd ac adrodd i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, mae'r rôl hon yn hollbwysig wrth arwain at y Seithfed Senedd a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd a fydd yn darparu'r arweiniad sydd ei angen i arwain a pharhau i wella ein swyddogaethau busnes seneddol drwy'r cyfnod hwn o newid a thrawsnewid. Gan weithio gyda'r Llywydd, Comisiynwyr y Senedd, Cadeiryddion Pwyllgorau ac uwch randdeiliaid gwleidyddol eraill, gan gynnwys y Prif Weinidog, Arweinwyr y Pleidiau, a Gweinidogion y Llywodraeth, byddwch yn gweithredu fel arbenigwr mewn gweithdrefnau ac arferion seneddol, gan roi cyngor cyfansoddiadol a gweithdrefnol.
Fel aelod o'r Bwrdd Gweithredol, byddwch hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth seneddol o'r radd flaenaf i'r Senedd yn ei chyfanrwydd, ei phwyllgorau ac aelodau unigol. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n meddwl yn strategol ac sy'n gyfarwydd â hyrwyddo diwylliannau gwaith cynhwysol a gweithredu o fewn strwythurau gwneud penderfyniadau cymhleth a chyflym. Byddwch yn ysbrydoli timau arbenigol, amlddisgyblaethol i barhau i berfformio'n effeithiol, gan ddarparu cymorth seneddol o'r radd flaenaf mewn Senedd fwy o faint. Os ydych am rannu eich arbenigedd a'ch profiad a gwneud gwahaniaeth ar adeg hollbwysig yn hanes y Senedd, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV wedi'i deilwra a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy dudalen), sy'n nodi eich sgiliau a'ch profiad sy'n berthnasol i'r rôl, erbyn 11 Mai 2025 fan bellaf.
I gael trafodaeth gyfrinachol, anffurfiol am y rôl, neu i ofyn am becyn gwybodaeth i ymgeiswyr, cysylltwch â LHH yn uniongyrchol ar +44 (0)141 220 6460 neu anfonwch neges e-bost at
Cyfarwyddwr Busnes y Senedd
LHH
6 days ago